19. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw!Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!
20. Achub fi rhag y cleddyf!Achub fy mywyd o afael y cŵn!
21. Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!
22. Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.
23. Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo!Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!
24. Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus;Wnaeth e ddim troi ei gefn arno.Pan oedd yn gweiddi am help,gwrandawodd Duw.
25. Dyna pam dw i'n dy foli di yn y gynulleidfa fawr;ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy'n dy addoli.
26. Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon!Bydd y rhai sy'n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo –Byddwch yn llawen bob amser!
27. Bydd pobl drwy'r byd i gydyn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD.Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli,
28. am mai'r ARGLWYDD ydy'r Brenin!Fe sy'n teyrnasu dros y cenhedloedd.
29. Bydd pawb sy'n iach yn plygu i'w addoli;a phawb sydd ar fin marw – ar wely angau –yn plygu glin o'i flaen!