Salm 22:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd.Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg.Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.

16. Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas!Criw o fwlis yn cau amdana iac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed.

17. Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn,ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin.

18. Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,ac yn gamblo am fy nghrys.

19. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw!Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!

20. Achub fi rhag y cleddyf!Achub fy mywyd o afael y cŵn!

21. Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!

22. Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.

23. Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo!Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!

24. Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus;Wnaeth e ddim troi ei gefn arno.Pan oedd yn gweiddi am help,gwrandawodd Duw.

Salm 22