Salm 22:13-23 beibl.net 2015 (BNET)

13. Maen nhw'n barod i'm llyncu i,fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth.

14. Dw i bron marw!Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o'u lle,ac mae fy nghalon yn wanfel cwyr yn toddi tu mewn i mi.

15. Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd.Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg.Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.

16. Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas!Criw o fwlis yn cau amdana iac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed.

17. Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn,ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin.

18. Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,ac yn gamblo am fy nghrys.

19. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw!Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!

20. Achub fi rhag y cleddyf!Achub fy mywyd o afael y cŵn!

21. Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!Ateb fi!

22. Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.

23. Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo!Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!

Salm 22