Salm 22:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fy Nuw, fy Nuw,pam rwyt ti wedi troi dy gefn arna i?Dw i'n griddfan mewn poen,pam rwyt ti ddim yn fy achub i?

2. Fy Nuw,dw i'n galw arnat ti drwy'r dydd,ond dwyt ti ddim yn ateb.Dw i'n dal ati drwy'r nosheb orffwys o gwbl.

3. Ti ydy'r Duw Sanctaidd!Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd,ac yn derbyn mawl pobl Israel.

4. Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio.Roedden nhw'n dy drystio dia dyma ti'n eu hachub nhw.

5. Dyma nhw'n gweiddi arnat tia llwyddo i ddianc;Roedden nhw wedi dy drystio di,a chawson nhw mo'i siomi.

6. Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn!Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu.

7. Dw i'n destun sbort i bawb.Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i,ac yn ysgwyd eu pennau.

8. “Mae e wedi trystio'r ARGLWYDD;felly gadewch i'r ARGLWYDD ei achub,a'i ollwng e'n rhydd!Mae e mor hoff ohono!”

9. Ti ddaeth â fi allan o'r groth.Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam.

10. Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf.Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.

11. Paid cadw draw!Mae helyntion gerllawa does gen i neb i'm helpu.

12. Mae teirw o'm cwmpas ym mhobman.Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth.

Salm 22