1. Boed i'r ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion;boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
2. Boed iddo anfon help o'r cysegr,a rhoi nerth i ti o Seion.
3. Boed iddo gofio dy holl offrymau,a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi. Saib
4. Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau,a dod รข dy gynlluniau di i gyd yn wir.
5. Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr!Byddwn yn codi baner i enw ein Duw.Boed i'r ARGLWYDD roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano!
6. Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDDyn achub ei eneiniog, y brenin.Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoeddac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth.