Salm 2:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela?Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?

2. Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladdyn erbyn yr ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis, y brenin.

3. “Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau,a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!”

4. Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin –maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD!

5. Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:

Salm 2