Salm 18:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.

9. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.

10. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan,a codi ar adenydd y gwynt.

11. Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.

12. Roedd golau disglair o'i flaen;saethodd mellt o'r cymylau,cenllysg a marwor tanllyd.

13. Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.

14. Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.

15. Daeth gwely'r môr i'r golwg;ac roedd sylfeini'r ddaear yn noethwrth i ti ruo, O ARGLWYDD,a chwythu anadl o dy ffroenau.

16. Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.

17. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.

18. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.

19. Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.

20. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lânac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.

Salm 18