Salm 18:39-50 beibl.net 2015 (BNET)

39. Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.

40. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.

41. Roedden nhw'n galw am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.

42. Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.

43. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.

44. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i –ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!

45. Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.

46. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!

47. Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.

48. Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.

49. Felly, O ARGLWYDD,bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloeddac yn canu mawl i dy enw:

50. Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.

Salm 18