35. Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian;mae dy law gref yn fy nghynnal.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
36. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.
37. Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
38. Dyma fi'n eu taro nhw i lawr,nes eu bod yn methu codi;roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.
39. Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.
40. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
41. Roedden nhw'n galw am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.
42. Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
43. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.
44. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i –ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!
45. Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
46. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
47. Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.