2. Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
3. Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
4. Ro'n i'n boddi dan donnau marwolaeth;roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
5. Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas;a maglau marwolaeth o'm blaen.
6. Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt,a gweiddi ar fy Nuw.Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;gwrandawodd arna i'n galw.
7. Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynuac yn ysgwyd am ei fod wedi digio.
8. Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.
9. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
10. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan,a codi ar adenydd y gwynt.
11. Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.
12. Roedd golau disglair o'i flaen;saethodd mellt o'r cymylau,cenllysg a marwor tanllyd.
13. Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.
14. Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
15. Daeth gwely'r môr i'r golwg;ac roedd sylfeini'r ddaear yn noethwrth i ti ruo, O ARGLWYDD,a chwythu anadl o dy ffroenau.
16. Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
17. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.