Salm 18:17-33 beibl.net 2015 (BNET)

17. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.

18. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.

19. Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.

20. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lânac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.

21. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.

22. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.

23. Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.

24. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.

25. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon;ac yn deg â'r rhai di-euog.

26. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.

27. Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.

28. Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o ARGLWYDD;fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.

29. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!

30. Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.

31. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?

32. Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.

33. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.

Salm 18