1. O ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder.Gwranda arna i'n galw arnat ti.Clyw fy ngweddi,sy'n gwbl ddidwyll.
2. Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi.Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
3. Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau,fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le.Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
4. Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5. Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
6. Dw i'n galw arnat ti,achos byddi di'n ateb, O Dduw.Gwranda arna i.Clyw beth dw i'n ddweud.
7. Dangos mor ffyddlon wyt tidrwy wneud pethau rhyfeddol!Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atati'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.