1. O ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder.Gwranda arna i'n galw arnat ti.Clyw fy ngweddi,sy'n gwbl ddidwyll.
2. Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi.Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
3. Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau,fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le.Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
4. Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5. Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
6. Dw i'n galw arnat ti,achos byddi di'n ateb, O Dduw.Gwranda arna i.Clyw beth dw i'n ddweud.
7. Dangos mor ffyddlon wyt tidrwy wneud pethau rhyfeddol!Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atati'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
8. Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
9. Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i;y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
10. Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd!Maen nhw mor falch wrth gega!
11. Maen nhw wedi fy amgylchynu i,ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr.