Salm 149:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu;a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.

6. Canu mawl i Dduwgyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,

7. yn barod i gosbi'r cenhedloedd,a dial ar y bobloedd.

8. Gan rwymo eu brenhinoedd รข chadwyni,a'u pobl bwysig mewn hualau haearn.

9. Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.Haleliwia!

Salm 149