Salm 149:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.

2. Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!

3. Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;ac ar y drwm a'r delyn fach.

4. Achos mae'r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl!Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.

Salm 149