Salm 147:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Y bobl sy'n ei barchu sy'n plesio'r ARGLWYDD;y rhai hynny sy'n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.

12. O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD!O Seion, mola dy Dduw!

13. Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf,ac wedi bendithio dy blant o dy fewn.

14. Mae'n gwneud dy dir yn ddiogel,ac yn rhoi digonedd o'r ŷd gorau i ti.

15. Mae'n anfon ei orchymyn drwy'r ddaear,ac mae'n cael ei wneud ar unwaith.

16. Mae'n anfon eira fel gwlân,yn gwasgaru barrug fel lludw,

17. ac yn taflu cenllysg fel briwsion.Pwy sy'n gallu goddef yr oerni mae'n ei anfon?

18. Wedyn mae'n gorchymyn i'r cwbl feirioli –mae'n anadlu arno ac mae'r dŵr yn llifo.

19. Mae wedi rhoi ei neges i Jacob,ei ddeddfau a'i ganllawiau i bobl Israel.

20. Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall;dŷn nhw'n gwybod dim am ei reolau.Haleliwia!

Salm 147