1. Mae mor dda canu mawl i Dduw!Mae'n beth hyfryd rhoi iddo'r mawl mae'n ei haeddu.
2. Mae'r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem,ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion.
3. Mae e'n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau,ac yn rhwymo eu briwiau.
4. Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd,a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
5. Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf!Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!
6. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi hyder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,ond yn bwrw'r rhai drwg i'r llawr.
7. Canwch gân o fawl i'r ARGLWYDD,a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach.
8. Mae'n gorchuddio'r awyr gyda chymylau,ac yn rhoi glaw i'r ddaear.Mae'n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd,
9. yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt,ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw.
10. Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno,a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu.