Salm 146:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.Mae e bob amser yn cadw ei air,

7. yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,a bwyd i'r rhai newynog.Mae'r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd.

8. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall.Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.

9. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyrac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon.Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.

10. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth;dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.Haleliwia!

Salm 146