Salm 146:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Mola'r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun!

2. Dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd,a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!

3. Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu –dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.

4. Mae'r anadl yn mynd allan ohono,ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd;a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!

5. Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr,Yr un sy'n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw,

6. y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.Mae e bob amser yn cadw ei air,

Salm 146