6. Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.
7. Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.
8. Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
9. Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb;mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.
10. Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD!Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!
11. Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad,ac yn siarad am dy nerth;
12. er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud,ac am ysblander dy deyrnasiad.
13. Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd,ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air;ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
14. Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio,ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.