Salm 145:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.

4. Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

5. Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.

6. Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.

7. Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.

Salm 145