Salm 144:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!

7. Estyn dy law i lawr o'r entrychion.Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!Achub fi o afael estroniaid

8. sy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.

9. O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,i gyfeiliant offeryn dectant.

10. Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.

11. Achub fi o afael estroniaidsy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.

12. Bydd ein meibion fel planhigion ifancwedi tyfu yn eu hieuenctid;a'n merched fel y pileri ar gorneli'r palas,wedi eu cerfio i harddu'r adeilad.

13. Bydd ein hysguboriau'n llawno bob math o fwyd;a bydd miloedd o ddefaid,ie, degau o filoedd, yn ein caeau.

14. Bydd ein gwartheg yn iach –heb bla a heb erthyliad;A fydd dim wylo yn y strydoedd.

15. Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly!Mae'r bobl sydd â'r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhwwedi eu bendithio'n fawr!

Salm 144