Salm 144:5-11 beibl.net 2015 (BNET)

5. O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr!Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!

6. Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!

7. Estyn dy law i lawr o'r entrychion.Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!Achub fi o afael estroniaid

8. sy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.

9. O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,i gyfeiliant offeryn dectant.

10. Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.

11. Achub fi o afael estroniaidsy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.

Salm 144