Salm 143:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dw i'n anobeithio!Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!

5. Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol,ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.

6. Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti.Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib

7. Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD!Alla i ddim diodde dim mwy!Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i,neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth.

8. Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore,achos dw i'n dy drystio di.Gad i mi wybod pa ffordd i fynd –dw i'n dyheu amdanat ti!

9. Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD;dw i'n rhedeg atat ti am gysgod.

10. Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau,achos Ti ydy fy Nuw i.Boed i dy Ysbryd hael di fy arwaini rywle saff.

11. Achub fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw da.Ti'n Dduw cyfiawn, felly arwain fi allan o'r helynt yma.

12. Rwyt ti mor ffyddlon. Delia gyda'r gelynion!Dinistria'r rhai sy'n ymosod arna i,achos dy was di ydw i.

Salm 143