Salm 143:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi.Gwranda arna i'n pledio am dy help di!Ti'n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly plîs ateb fi.

2. Paid rhoi dy was ar brawf,achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di.

3. Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i,ac wedi fy sathru i'r llawr.Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.

4. Dw i'n anobeithio!Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!

5. Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol,ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.

Salm 143