2. Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen,ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3. Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr,rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi.Maen nhw wedi cuddio maglar y llwybr o'm blaen i.
4. Dw i'n edrych i'r dde –ond does neb yn cymryd sylw ohono i.Mae dianc yn amhosib! –does neb yn poeni amdana i.
5. Dw i'n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD;a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd,does gen i neb arall ar dir y byw!”
6. Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel.Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;maen nhw'n rhy gryf i mi.