Salm 140:2-5 beibl.net 2015 (BNET)

2. sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,ac yn ymosod a chreu helynt.

3. Mae ganddyn nhw dafodau miniog;maen nhw'n brathu fel nadroedd,ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib

4. O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiolsydd eisiau fy maglu i.

5. Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib

Salm 140