1. Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg.Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol,
2. sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,ac yn ymosod a chreu helynt.
3. Mae ganddyn nhw dafodau miniog;maen nhw'n brathu fel nadroedd,ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib
4. O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiolsydd eisiau fy maglu i.