7. Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd?I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
8. Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno;petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!
9. Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawrac yn mynd i fyw dros y môr,
10. byddai dy law yno hefyd, i'm harwain;byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.
11. Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio,ac i'r golau o'm cwmpas droi yn nos,
12. dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti!Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti;mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
13. Ti greodd fy meddwl a'm teimladau;a'm plethu i yng nghroth fy mam.
14. Dw i'n dy foli di,am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel!Ti'n fy nabod i i'r dim!
15. Roeddet ti'n gweld fy ffrâm ipan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel,ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.
16. Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!Roedd hyd fy mywyd wedi ei drefnu –pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr,a hynny cyn i un fynd heibio!
17. O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi;mae gormod ohonyn nhw i'w deall!