Salm 139:17-24 beibl.net 2015 (BNET)

17. O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi;mae gormod ohonyn nhw i'w deall!

18. Petawn i'n ceisio eu cyfri nhw,byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod!Bob tro dw i'n deffrorwyt ti'n dal yna gyda mi!

19. O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg,a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?

20. Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti!Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!.

21. O ARGLWYDD, mae'n gas gen i y rhai sy'n dy gasáu di!Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i!

22. Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith!Maen nhw'n elynion i mi hefyd.

23. Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl;Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni.

24. Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le,ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.

Salm 139