12. dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti!Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti;mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
13. Ti greodd fy meddwl a'm teimladau;a'm plethu i yng nghroth fy mam.
14. Dw i'n dy foli di,am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel!Ti'n fy nabod i i'r dim!
15. Roeddet ti'n gweld fy ffrâm ipan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel,ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.
16. Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!Roedd hyd fy mywyd wedi ei drefnu –pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr,a hynny cyn i un fynd heibio!
17. O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi;mae gormod ohonyn nhw i'w deall!
18. Petawn i'n ceisio eu cyfri nhw,byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod!Bob tro dw i'n deffrorwyt ti'n dal yna gyda mi!
19. O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg,a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?
20. Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti!Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!.
21. O ARGLWYDD, mae'n gas gen i y rhai sy'n dy gasáu di!Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i!
22. Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith!Maen nhw'n elynion i mi hefyd.
23. Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl;Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni.