1. O ARGLWYDD, rwyt ti'n fy archwilio i,ac yn gwybod popeth amdana i.
2. Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi;ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.
3. Ti'n cadw golwg arna i yn teithio ac yn gorffwys;yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud.
4. Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweudcyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.
5. Rwyt ti yna o'm blaen i a'r tu ôl i mi,mae dy law di arna i i'm hamddiffyn.
6. Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi –mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall.
7. Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd?I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
8. Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno;petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!