Salm 136:4-16 beibl.net 2015 (BNET)

4. Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

5. Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

6. Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

7. Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

8. Yr haul i reoli'r dydd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

9. a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

10. Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

11. a dod ag Israel allan o'u canol nhw,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

12. gyda nerth a chryfder rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

13. Fe wnaeth hollti'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

14. a gadael i Israel fynd trwy ei ganol,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

15. Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

16. ac arwain ei bobl drwy'r anialwch.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

Salm 136