Salm 135:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifftyn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;

10. Concrodd lawer o wledydda lladd nifer o frenhinoedd –

11. Sihon, brenin yr Amoriaid,Og, brenin Bashan,a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.

12. Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13. O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth,ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.

14. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei boblac yn tosturio wrth ei weision.

15. Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur,wedi eu siapio gan ddwylo dynol.

16. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;

17. clustiau, ond allan nhw ddim clywed.Does dim bywyd ynddyn nhw!

Salm 135