Salm 135:7-14 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear;mae'n anfon mellt gyda'r glaw,ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai.

8. Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft,a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.

9. Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifftyn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;

10. Concrodd lawer o wledydda lladd nifer o frenhinoedd –

11. Sihon, brenin yr Amoriaid,Og, brenin Bashan,a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.

12. Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13. O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth,ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.

14. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei boblac yn tosturio wrth ei weision.

Salm 135