Salm 135:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Molwch enw'r ARGLWYDD!Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD

2. ac sy'n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD,yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw.

3. Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda!Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny!

4. Mae'r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun,ac Israel fel ei drysor sbesial.

5. Dw i'n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr;mae ein Duw ni yn well na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.

6. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau,yn y nefoedd, ar y ddaear,ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn.

7. Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear;mae'n anfon mellt gyda'r glaw,ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai.

8. Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft,a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.

9. Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifftyn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;

10. Concrodd lawer o wledydda lladd nifer o frenhinoedd –

Salm 135