Salm 132:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Clywson fod yr Arch yn Effrata;a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar.

7. Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl,ac ymgrymu wrth ei stôl droed!

8. O ARGLWYDD, dos i fyny i dy demlgyda dy Arch bwerus!

9. Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder,boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen!

10. Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi ei eneinioo achos Dafydd dy was.

11. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd– aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air –“Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.

Salm 132