Salm 132:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd– aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air –“Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.

12. Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon nia'r amodau dw i wedi eu gosod iddyn nhw,bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”

13. Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Seion;mae e wedi penderfynu aros yno.

14. “Dyma ble bydda i yn gorffwys am byth,” meddai,“dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.

15. Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus,a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi.

16. Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid,a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen!

17. Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd;bydd fel lamp wedi ei rhoi i oleuo'r bobl.

18. Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd,ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”

Salm 132