Salm 130:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD,a dw i'n galw arnat ti!

2. O ARGLWYDD, gwrando ar fy nghri!Gwranda arna i'n galw arnat ti!Dw i'n erfyn yn daer am drugaredd!

3. O ARGLWYDD, os wyt ti'n cadw golwg ar bechodau,pa obaith sydd i unrhyw un?

4. Ond rwyt ti'n barod i faddau,ac felly mae pobl yn dy addoli di.

Salm 130