Salm 125:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r rhai sy'n trystio'r ARGLWYDDfel Mynydd Seion –does dim posib ei symud,mae yna bob amser.

2. Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas,mae'r ARGLWYDD yn cofleidio ei boblo hyn allan ac am byth.

3. Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael arosar y tir sydd wedi ei roi i'r rhai cyfiawn,rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.

4. Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da,sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn.

5. Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig –boed i'r ARGLWYDD eu symud nhw o'r fforddgyda'r rhai sy'n gwneud drwg.Heddwch i Israel!

Salm 125