Salm 12:5-8 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ond meddai'r ARGLWYDD:“Am fod yr anghenus yn dioddef trais,a'r tlawd yn griddfan mewn poen,dw i'n mynd i weithredu.Bydda i'n ei gadw'n saff;ie, dyna mae'n dyheu amdano.”

6. Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir.Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd,neu aur wedi ei goethi'n drwyadl.

7. Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD,Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma

8. sy'n cerdded o gwmpas yn falch,a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud!

Salm 12