Salm 119:86-95 beibl.net 2015 (BNET)

86. Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di;mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!

87. Maen nhw bron â'm lladd i,ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.

88. Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.

89. Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD;maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.

90. Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.

91. Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.

92. Byddwn i wedi marw o iselderoni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.

93. Wna i byth anghofio dy reolau di,rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw.

94. Ti sydd piau fi. Achub fi!Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.

95. Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio,ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.

Salm 119