Salm 119:80-88 beibl.net 2015 (BNET)

80. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfaufel bydd dim cywilydd arna i.

81. Dw i'n dyheu i ti fy achub i!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!

82. Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo:“Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.

83. Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg!Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.

84. Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl?Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?

85. Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di;maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.

86. Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di;mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!

87. Maen nhw bron â'm lladd i,ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.

88. Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.

Salm 119