Salm 119:77-93 beibl.net 2015 (BNET)

77. Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mifelly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.

78. Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.

79. Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolaufy nerbyn i yn ôl.

80. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfaufel bydd dim cywilydd arna i.

81. Dw i'n dyheu i ti fy achub i!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!

82. Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo:“Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.

83. Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg!Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.

84. Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl?Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?

85. Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di;maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.

86. Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di;mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!

87. Maen nhw bron â'm lladd i,ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.

88. Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.

89. Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD;maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.

90. Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.

91. Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.

92. Byddwn i wedi marw o iselderoni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.

93. Wna i byth anghofio dy reolau di,rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw.

Salm 119