Salm 119:66-82 beibl.net 2015 (BNET)

66. Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn;dw i'n trystio dy orchmynion di.

67. Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef,ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

68. Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda:dysga dy ddeddfau i mi.

69. Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i,ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.

70. Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw,ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.

71. Roedd yn beth da i mi orfod dioddef,er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.

72. Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawrna miloedd o ddarnau arian ac aur.

73. Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i;helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.

74. Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi,am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.

75. O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n benderfynu yn iawn;roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.

76. Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi,fel gwnest ti addo i dy was.

77. Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mifelly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.

78. Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.

79. Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolaufy nerbyn i yn ôl.

80. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfaufel bydd dim cywilydd arna i.

81. Dw i'n dyheu i ti fy achub i!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!

82. Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo:“Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.

Salm 119