Salm 119:52-68 beibl.net 2015 (BNET)

52. Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD,ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.

53. Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynnysy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.

54. Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cânble bynnag dw i wedi byw!

55. Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD,ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.

56. Dyna dw i wedi ei wneud bob amser –ufuddhau i dy ofynion di.

57. Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i:Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.

58. Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon:Dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.

59. Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd,ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.

60. Heb unrhyw oedi, dw i'n brysioi wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.

61. Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad,ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.

62. Ganol nos dw i'n codi i ddiolcham dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.

63. Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di,ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.

64. Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear!Dysga dy ddeddfau i mi.

65. Rwyt wedi bod yn dda tuag ata ifel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.

66. Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn;dw i'n trystio dy orchmynion di.

67. Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef,ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

68. Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda:dysga dy ddeddfau i mi.

Salm 119