Salm 119:27-40 beibl.net 2015 (BNET)

27. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.

28. Mae tristwch yn fy lladd i!Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!

29. Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;a rho dy ddysgeidiaeth i mi.

30. Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti;a chadw fy llygaid ar dy reolau di.

31. Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!

32. Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion;helpa fi i weld y darlun mawr.

33. O ARGLWYDD, dysga fi i fywfel mae dy gyfraith di'n dweud;a'i dilyn i'r diwedd.

34. Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di;bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.

35. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;dyna dw i eisiau ei wneud.

36. Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau diyn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.

37. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!

38. Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,i ennyn parch ac addoliad ynof fi.

39. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.

40. Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn;Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.

Salm 119