Salm 119:17-31 beibl.net 2015 (BNET)

17. Helpa dy was!Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

18. Agor fy llygaid, i mi allu deally pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.

19. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.

20. Dw i'n ysu am gael gwybodbeth ydy dy ddyfarniad di.

21. Rwyt ti'n ceryddu pobl falch,ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.

22. Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd?Dw i'n cadw dy reolau di.

23. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i,mae dy was yn astudio dy ddeddfau.

24. Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi,ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.

25. Dw i'n methu codi o'r llwch!Adfywia fi fel rwyt wedi addo!

26. Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb.Dysga dy ddeddfau i mi.

27. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.

28. Mae tristwch yn fy lladd i!Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!

29. Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;a rho dy ddysgeidiaeth i mi.

30. Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti;a chadw fy llygaid ar dy reolau di.

31. Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!

Salm 119