Salm 119:159-176 beibl.net 2015 (BNET)

159. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.

160. Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.

161. Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.

162. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.

163. Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.

164. Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dyddam dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.

165. Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.

166. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD!Dw i'n cadw dy orchmynion di;

167. dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau diac yn eu caru nhw'n fawr.

168. Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.

169. Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD;helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.

170. Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti.Achub fi fel rwyt wedi addo.

171. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.

172. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.

173. Estyn dy law i'm helpu.Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.

174. Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD;Mae dy ddysgeidiaeth di yn hyfrydwch pur i mi.

175. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli!gad i dy reolau di fy helpu i.

176. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll.Tyrd i edrych amdana i!Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.

Salm 119