158. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
160. Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
161. Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.
162. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
163. Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
164. Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dyddam dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
165. Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
166. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD!Dw i'n cadw dy orchmynion di;
167. dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau diac yn eu caru nhw'n fawr.
168. Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.
169. Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD;helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
170. Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti.Achub fi fel rwyt wedi addo.
171. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
172. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
173. Estyn dy law i'm helpu.Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.